sábado, 29 de septiembre de 2012

Gŵyl y Glaniad

Wel wir, ma ’na amser hirfaith ers i fi ddiweddaru’r blog a chymaint o bethau wedi digwydd dros y deufis diwethaf! Ond yn gyntaf rhaid dychwelyd at un digwyddiad hynod o bwysig fu ddiwedd mis Gorffennaf, sef Gŵyl y Glaniad.

Fel dwi wedi sôn droeon, mae calendr yr Ariannin yn llawn diwrnodau arbennig i goffáu pobl neu ddigwyddiadau hollbwysig yn hanes y wlad. Mae rhai o’r rhain, megis Diwrnod Annibyniaeth yn wyliau cenedlaethol tra bo eraill, megis Diwrnod y Petrol yn daleithiol – dyma’r diwrnod y cafodd petrol ei gloddio gyntaf yn Comodoro, felly mae’n ddiwrnod o wyliau yn nhalaith Chubut. Dwi’n meddwl ei bod hi’n deg dweud mai’r 28ain o Orffennaf yw gŵyl bwysicaf Chubut, sef Gŵyl y Glaniad. Ar y dyddiad hwn yn y flwyddyn 1865 y sefydlwyd y dalaith, a hynny gan mai dyma pryd y glaniodd y Cymry yma am y tro cyntaf. Gadawodd llong y Mimosa (nid hon oedd y dewis cyntaf, gyda llaw) borthladd Lerpwl ar yr 28ain o Fai 1865 gyda dros 150 o Gymry ar ei bwrdd yn llawn gobaith a disgwyliadau am ddyfodol gwell ar eu cyfer nhw a’u disgynyddion, gan droi eu cefn ar y gorthrwm yng Nghymru. Ar ôl deufis o hwylio’r Iwerydd, angorodd y Mimosa yn y Bae Newydd sydd ar arfordir ddwyreiniol yr Ariannin. Dyma lle mae Porth Madryn heddiw, ond yn groes i gred nifer nid dyma’r dref gyntaf i’r Cymry ei sefydlu - Caer Antur oedd honno, a newidiodd ei henw maes o law i Drerawson ond sydd bellach yn dwyn yr enw Rawson. Wynebodd y Cymry hyn flynyddoedd o galedi a dioddefaint wrth iddyn nhw geisio sicrhau bywoliaeth ac yn wir fywyd iddyn nhw eu hunain. Doedd dim dewis ond brwydro, ac oni bai am y Cymry hyn, ni fyddai Chubut fel mae hi heddiw, ac mae trigolion y dalaith yn talu teyrnged i’r Cymry hynny a'u dyfalbarhad.

Mae’r cofio yn dechrau cyn yr 28ain o Orffennaf, gydag ysgolion y dalaith yn dysgu am yr hanes a rhai ohonyn nhw’n cynnal gwahanol weithgareddau, maegis te Cymreig. Aeth Ysgol yr Hendre gam ymhellach a chynnal swper arbennig yng Nghanolfan Amaeth Trelew y noson gynt, ac roedd y seddi yn llawn pobl oedd yn barod i fwynhau asado ac adloniant. Roedd y cig a baratowyd gan griw Bryn Gwyn yn hynod o flasus, fel arfer, ac ro’n i’n falch iawn o groesawu plât ar ôl plât o gig blasusfawr a ddeuai i’r bwrdd! Pan oedd boliau pawb yn llawn a’r platiau yn wag, dechreuodd yr adloniant. Roedd Elliw a Sara wedi llunio parodi o ‘Blaenau Ffestiniog’ gyda geiriau addas yn ymwneud â’r Cymry yn cyrraedd Patagonia, a chafodd gryn gymeradwyaeth! Chwarae teg iddyn nhw! Yna gwahoddwyd dwy ferch i ddawnsio, a ches i dipyn o syndod pan gyhoeddwyd y byddan nhw’n dawnsio dawns Arabaidd – mewn geiriau eraill, ‘Belly Dance’! Dwi ddim yn gwadu nad oedden nhw’n gallu dawnsio, ond do’n i ddim yn gallu gweld y cysylltiad rhwng hyn a Gŵyl y Glaniad, a go brin mai dyma sut y byddai’r Cymry cyntaf wedi dychmygu eu disgynyddion yn dathlu eu dyfodiad i’r Ariannin... Ta waeth, roedd pawb i’w gweld yn mwynhau a chafodd rhai o blant yr ysgol gyfle i ymuno â nhw. Yn dilyn hyn gostyngwyd y golau a chodwyd y gerddoriaeth wrth i’r disgo ddechrau, a bu dawnsio tan oriau mân y bore!


Ychydig oriau yn ddiweddarach agorodd drysau Neuadd Dewi Sant Trelew ar gyfer seremoni arbennig Gŵyl y Glaniad. Roedd yr ystafell fawr yn orlawn, a chafodd pawb fathodyn baneri Cymru a’r Ariannin yn rhodd i gofio’r diwrnod. A bod yn onest, ro’n i wedi fy siomi’n fawr gan y ffaith mai uniaith Sbaeneg oedd yr anerchiad a’r siarad, ond canodd côr plant ‘Lleisiau Bach y Dref’ a phedwarawd ‘Hogia’r Wilber’ ganeuon Cymraeg, a pherfformiodd Dawnswyr Gwanwyn ddawns werin Gymreig.
Ar ôl i eiriau angerddol ‘Hen Wlad Fy Nhadau’ lenwi’r neuadd, parhaodd y dathlu gyferbyn â Neuadd Dewi Sant wrth i nifer fynd i Gapel Tabernacl ar gyfer cymanfa ganu. Roedd y gwasanaeth hwn, y croeso, y darlleniad a’r emynau yn ddwyieithog gyda'r canu yn angerddol - yn enwedig wrth i ni ganu yr emyn olaf a gyfansoddwyd gan Llewelyn Griffiths ar gyfer Gŵyl y Glaniad:

Mae Popeth yn Dda

Pob Cymro drwy'r dyffryn sydd heddiw o'r bron
Yn dathlu Gŵyl Glaniad yn llawen a llon.
Gŵyl glanio;r dewr fintai a di-droi-yn-ôl
Laniasant ym Madryn flynyddoedd yn ôl.

Cytgan Cymraeg:
Mae popeth yn dda.
Mae popeth yn dda.
Mae Iesu'n fy ngharu,
Mae popeth yn dda.


Mewn Dyffryn bach clyd o ddwndwr y byd,
Gŵyl cofio y glanio sy'n aros o hyd.
Cwpanaid o de a 'chat' onide,
A phawb fel pe'n barod i floeddio - 'Hwrê!'

Cytgan Sbaeneg:
Ya todo está bien.
Ya todo está bien.
Si, Cristo me ama -
Ya todo está bien.


Nid oes yma'n aros dim un o'r rhai hyn;
Maent oll wedi croesi trwy gymoedd y glyn.
Ac na foed i ninnau sy'n byw yn y wlad
Fyth, byth ag anghofio arloeswyr ein gwlad.



Am dri o’r gloch y prynhawn ar ddiwrnod Gŵyl y Glaniad daw cyfle am gwpanaid o de a 'chat' gyda'r rhan fwyaf o gapeli Cymreig Dyffryn Camwy yn agor eu drysau gan ddarparu te mawreddog ar gyfer ymwelwyr. Yn anffodus, gan fod pob capel yn cynnal eu te yr un pryd dyw hi ddim yn bosib crwydro o un i’r llall! Eleni penderfynon ni fynd i Gapel Bethlehem Treorci, ac er i ni gyrraedd yno tua chwarter wedi tri roedd tir y capel yn llawn ceir a nifer o bobl yn aros eu tro wrth y drws! Aros fu’n rhaid i ni felly, ac er mai ni oedd y nesaf am ran helaetha’r amser buon ni a’n stumogau ar bigau’r drain am awr gyda mwy a mwy o bobl yn ymuno â’r gynffon - syrthiodd ambell bluen eira yn y cyfamser gna ychwanegu rhywfaint o gyffro at yr achlysur! A phan ddaeth ein tro ni i gamu dros y trothwy, aeth yr aros i ebargofiant wrth i ni weld bwrdd wedi’i osod yn hyfryd gyda phlataiau o fara menyn a chacennau arno. Teisen lemwn, teisen blât afal, teisen siocled, teisen gyda jam llaeth, teisen gydag eirin gwlanog, teisen hufen, teisen ddu... Dyna’r rhai dwi’n cofio eu blasu, beth bynnag, a hynny rhwng nifer di-ri o baneidiau! Gydag ond briwsion yn weddill ar y platiau a dail te ar waelod y cwpanau, gadawon ni Gapel Bethlehem a gwneud ein ffordd draw at Gapel Bethel y Gaiman. Ond nid i loddesta.
Roedd arlwy’r capel hwn yn cynnwys canu yn y Capel Newydd, a phan gyrhaeddon ni roedd nifer o ymwelwyr yn eistedd yno gan weiddi rhifau gwahanol emynau, cyn i rai o griw ifanc Bethel ffurfio côr i ganu ambell gân fawl Sbaeneg. Aethon nhw yn eu blaen i berfformio mewn gwahanol gapeli, a gadawon ni am Gapel Bryn Crwn lle’r oedd cynegrdd yn cael ei gynnal – unawdau, deuawdau, adrodd, offerynnau, a sgets! Diwedd gwych i ddiwrnod arbennig!

Dwi wrth fy modd gyda Gŵyl y Glaniad. Mae ’na naws Nadoligaidd yn perthyn i’r diwrnod, wrth fynychu oedfa yn y bore ai deuluoedd y gwahanol gapeli ddod at ei gilydd i ddathlu ac i fwynhau'r diwrnod – ac i fwyta! Ond yn fwy na hynny, mae’n hyfryd fod pobl yn dal i gofio am y Cymry dewr hynny a fentrodd dros y moroedd ar fwrdd y Mimosa 147 o flynyddoedd yn ôl ar drywydd bywyd newydd, boed yn ddisgynyddion iddyn nhw ai peidio, gan ymfalchïo yn eu gwreiddiau Cymreig. Oni bai amdanyn nhw a’u gwaith caled a diflinio byddai dim un ohonom ni yma yn y Wladfa heddiw - byddwn i bendant ddim wedi cael y profiadau anhygoel a gwefreiddiol dwi wedi eu cael dros y flwyddyn a hanner diwethaf, na chwrdd â'r bobl arbennig dwi wedi cael y fraint o ddod i'w hadnabod dros y cyfnod hwnnw.




Hir Oes i Gymry Patagonia!

No hay comentarios:

Publicar un comentario