miércoles, 23 de mayo de 2012

Bywyd hamddenol y Wladfa...

‘Mae bywyd hamddenol y Wladfa yn brysur iawn, tydi?’ dywedodd Luned wrtha i’r wythnos diwethaf. Gallwn i ond cytuno â hi. Ac mae’r digwyddiadau ychwanegol sydd wedi cael eu cynnal dros yr wythnos diwethaf wedi bod yn enghraifft dda o hyn!

Ymweliad y Llysgenhades
Daeth y Llysgenhades Brydeinig, Shan Morgan i ymweld â Dyffryn Camwy er mwyn ffarwelio â'r gymuned Gymraeg cyn iddi orffen ei chyfnod o dair blynedd a hanner yn Buenos Aires ddydd Sul nesaf. Rhwng ei hymweliadau â Chapel Bethel, Ysgol yr Hendre, Amgueddfa’r Gaiman, yr Ysgol Feithrin ac Ysgol Camwy, daeth hi am de prynhawn gyda'r athrawesau Cymraeg i Dŷ Camwy - fi, Elliw, Clare a Sara. Er mai ‘paned o de a phlât o bice bach’ oedd yr archeb, paratôdd Elliw bwdin bara a finnau’r pice bach a theisen foron. Diolch i Irma am y rysáit! Taenwyd lliain dros fwrdd yr ystafell flaen a gosodwyd y llestri gorau arno'n soffistigedig reit, yn ogystal â’r danteithion. Cyrhaeddodd y Llysgenhades a llifodd y te wrth i ni sgwrsio am hyn llall ac arall yn hamddenol braf. Taith fer yn unig oedd hon i'r dyffryn, ond roedd hi wrth ei bodd ac yn falch iawn o'r cyfle i ymweld â'r gymuned Gymraeg cyn iddi adael gan fynegi pwysigrwydd y cysylltiadau rhyngddi hi a Phrydain. Dim ond am ryw awr fu hi gyda ni cyn cael ei thywys yn ôl i Drelew. Bwytaodd hi ddwy bice, ond gystyngodd eu nifer a diflannodd y ddwy deisen arall yn raddol wrth i'r te parti barhau. Tybed pryd fydd y lliain bwrdd a'r llestri'n cael eu defnyddio nesaf...

Diwrnod Rhyngwladol Twm Siôn Cati
Eleni yw'r trydedd flwyddyn i Ddiwrnod Rhyngwladol Twm Siôn Cati gael ei ddathlu, a'r trydydd tro i ddisgyblion Ysgol yr Hendre siarad gyda phlant Ysgol Gynradd Tregaron dros Skype. Trefnais y digwyddiad ac ymunais â Sara a blynyddoedd 5 a 6 yr Hendre wrth iddyn nhw sgwrsio gyda'r plant yng Nghymru gan rannu profiadau am eu diwrnod. Roedd plant Tregaron wedi gwneud taith gerdded tair milltir o amgylch y dref y bore hwnnw (cymerais ran yn y daith gerdded wrth ffilmio eitem arni ddwy flynedd yn ôl), a phlant yr Hendre wedi darllen stori am hanes Twm Siôn Cati a llunio proffil ar ei gyfer. Er gwaetha'r trafferthion technegol, llwyddodd y plant i gynnal sgwrs ddifyr am ryw hanner awr gan sicrhau cysylltiad llwyddiannus arall rhwng y ddwy ysgol.

Diwrnod yr Amgueddfeydd
Roedd y 18fed o Fai yn Ddiwrnod yr Amgueddfeydd a derbyniais alwad ffôn ychydig ddiwrnodau ynghynt yn fy ngwahodd i ymuno ag Amgueddfa'r Gaiman mewn digwyddiad arbennig roedden nhw'n mynd i'w gynnal i nodi'r achlysur. Felly ar fore'r 18fed paratois does pice'r maen (tamaid bach fel Blue Peter) a'u torri'n gylchoedd bach yn barod i'w pobi ar faen oedd wedi bod yn cynhesu ar ffwrn hynafol yn yr amgueddfa ers teirawr. Felly gwisgais i ffedog â'r Ddraig Goch arni (diolch Elliw) a Tegai ei ffedog wen hithau, yn barod i bobi! Roedd mynediad i'r amgueddfa am ddim a'r sawl a ddaeth yn cael eu croesawu gan wynt cartrefol y pice, ac wrth gwrs yn cael cynnig i'w blasu. Paratowyd arddangosfa o agarraderas ('potholders') a wnaed gan wragedd lleol hefyd, gyda rhyw ugain ohonyn nhw'n hongian yn lliwgar ar y waliau. A bod yn onest, rhyw hanner dwsin o bobl ddaeth i'r amgueddfa yn ystod yr awr y buon ni wrthi'n pobi, ac yn eu plith y wraig sy'n tynnu lluniau ar gyfer y papur lleol! Credai pob un fod y syniad yn un da, gan fwynhau'r pice bach. Dosbarthwyd copïau o'r rysáit hefyd er mwyn iddyn nhw allu rhoi cynnig ar eu gwneud eu hunain. Anfonwyd llun a phwt bach am y digwyddiad at rywun pwysig yn Buenos Aires, ac mae'n debyg i'r digwyddiad gael derbyniad da!

Porth Madryn
Yn syth bin ar ôl i fi ddiosg fy ffedog, ges i a fy mhac lifft i orsaf fysiau Trelew lle’r o’n i’n dal y bws i Borth Madryn. Lorena yw’r unig athrawes Gymraeg ym Madryn, ac mae hi’n cynnal dau ddosbarth ar nos Wener; dau sy’n mynychu’r cwrs WLPAN (y naill newydd ddechrau a’r llall yn dysgu ers blwyddyn) a thair yn yr Uwch. Dwi’n mynd yno’n achlysurol i gynnal gweithgareddau Cymraeg gyda’r sawl sy’n mynychu’r dosbarthiadau ac i unrhyw siaradwr Cymraeg sydd eisiau cyfle i ymarfer. Pan gyrhaeddon ni Dŷ Toschke (cartref y dosbarthiadau Cymraeg a Chymdeithas Gymreig Porth Madryn) roedd ’na wynt hyfryd yn dod o’r gegin gan fod Betty wrthi’n pobi sgons, ac roedd y bwrdd wedi cael ei osod yn daclus a chroesawgar ar gyfer te. Teimlwn fel llysgenhades! Felly cyn gwneud unrhyw beth arall cawson ni baned, bara menyn a jam (y tro cyntaf i fi flasu jam grawnwin) a sgons wrth sgwrsio’n hamddenol braf – am fwyd a choginio yn bennaf! Roedd hi'n braf eu clywed yn siarad gyda'i gilydd, ac ambell un roeddwn i wedi cwrdd â nhw y llynedd yn siarad gyda chymaint mwy o hyder a rhwyddineb eleni. Ar ôl i bawb gyrraedd, wyth ohonom, dechreuon ni ar y gweithgareddau. Y peth cyntaf oedd i bawb gyflwyno’u hunain ond ro’n i wedi dosbarthu darnau o bapur gydag ansoddair gwahanol ar bob un. Roedd yn rhaid i’r gweddill ddyfalu pa ansoddair oedd yn cael ei gyfleu, a diddorol oedd gweld dehongliadau o ‘crac’, ‘oer’ ac ‘araf’!
Roedd y te yn dal i lifo a'r gwynt yn chwythu'n gryf y tu allan wrth i ni ddarllen Clecs Camwy a gwneud gweithgareddau yn seiliedig ar y darnau hynny, cyn i ni setlo i wylio rhifyn cyntaf y rhaglen 'Cof Patagonia' - diolch i S4C am y dvd. Canolbwyntiai'r rhifyn hwn ar flynyddoedd cynnar y Wladfa ac mae'r gyfres gyfan yn cael ei chyfleu trwy luniau a chyfweliadau. Roeddwn i wedi'i gwylio ymlaen llaw, ond roedd hi'n brofiad gwahanol ei gwylio gyda rhai o ddisgynyddion y bobl oedd yn yr hen luniau, wrth iddyn nhw bwyntio at wahanol bobl gan ddatgan 'fy hen daid', neu 'fy hen fodryb', a chafodd un llun ei dynnu o briodas hen fam-gu a thad-cu un ohonyn nhw! Roeddwn i wedi paratoi rhyw hanner dwsin o gwestiynau iddyn nhw eu hateb ar ôl gwylio'r rhaglen, a chafwyd trafodaeth fer ond difyr ar ei chynnwys cyn i ni fentro allan i wynt y nos. Es i a Lorena allan am swper i fwyty lle'r oedd tîm pêl-droed Madryn yn swpera - y diwrnod canlynol enillon nhw o gôl i ddim yn erbyn River Plate, sef un o brif dimau'r Ariannin!

Cymanfa Ganu Glan Alaw
Doedd dychwelyd i'r Gaiman ddim yn weithred rhwydd y bore canlynol. Cyrhaeddai'r bws o Fadryn bum munud ar ôl i'r bws adael Trelew, felly rhaid oedd aros deugain munud am y nesaf, ac ar ôl gollwng ambell deithiwr ar hyd y ffordd gwrthododd y bws ailddechrau rhyw bum munud y tu allan i'r Gaiman. Diolch byth, daeth bws arall i'n cludo ymhen ugain munud gan droi taith awr a hanner yn daith deiawr! Ond cyrhaeddais i Dŷ Camwy yn ddiogel. Rhyw awr a hanner yn ddiweddarach bant â ni i Gapel Glan Alaw lle’r oedd Cymanfa Ganu arbennig yn cael ei chynnal. Ar 15 Mai roedd y capel yn dathlu 125, a bydd rhywfaint o’i hanes yn y rhifyn nesaf o Clecs Camwy! Hwn yw’r lleiaf o’r capeli Cymreig ac afraid dweud ei fod yn orlawn gyda rhai yn sefyll wrth y drws a hyd yn oed y tu allan wrth i’r canu ddechrau. Cyfuniad o’r Gymraeg a’r Sbaeneg oedd yr emynau eto,
a phob un yn cael eu cyflwyno’n ddwyieithog. Ac roedd y canu yn drawiadol fendigedig! Ond Sbaeneg oedd rhan helaetha’r gwasanaeth gyda neges y Parch. Carlos Ruiz yn sôn am bwysigrwydd yr addoldy fel lle i lawenhau, i gydgyfarfod ac i addoli. Rhannodd ambell un hanesion eu teulu a phrofiadau personol o fynychu Capel Glan Alaw, a chyflwynodd Cymdeithas Dewi Sant blac i’r capel i nodi'r achlysur arbennig a ddadorchuddiwyd yn ystod y gymanfa. Oherwydd y doreth o eitemau parodd y gymanfa ddwy awr, a doedd fy newis i o ddarlleniad Cymraeg ddim yn help! Darllenais Effesiaid 2:1-23 gan mai ‘heddwch yng Nghrist’ yw thema’r cymanfaoedd eleni. Roedd hi’n fraint cael rhannu gair Duw gyda’r dorf os oedden nhw’n ei ddeall ai peidio. Ar ôl canu’r emyn olaf, ‘Calon Lân’, darparwyd te ar dir y capel gan nad oes yno festri. Ond fe adawon ni cyn hyn achos...

Noson Gyri
Mae pobl wedi bod yn gofyn i fi pryd fydd Nosn Gyri yn cael ei chynnal ers yr un diwethaf fis Ebrill 2011 ac o'r diwedd, fis Mai 2012 daeth diwedd ar yr holi! Y tro hwn cynigion ni wers ar sut i goginio cyri ychydig oriau cyn y digwyddiad ei hun, ac roedd rhyw hanner dwsin ohonon ni yng nghegin Plas-y-Coed yn paratoi cyri cyw iâr, bara naan a phwdinau gyda'n gilydd. Roedd tri chyri - cyw iâr, cig eidion a phwmpen - llond y lle o reis, bara naan a gwahanol fathau o gatwad yn barod erbyn i ryw hanner cant o blant ac oedolion gyrraedd! Diolch byth, roedd digon o fwyd i bawb (ac ail blataid i rai) felly doedd dim angen rhedeg i'r siop drwy'r drws cefn fel y llynedd. Ac o, roedd y bwyd yn flasus dros ben! Diolch i Ana ac Esyllt. Ar ôl clirio'r platiau gwag daeth y pwdin, sef swis rôl gyda dewis o jam llaeth neu hufen a mefus i'r sawl oedd wedi cadw lle ar ôl y wledd! Ac wrth gnoi'r pwdin rhannwyd yn dimau i gnoi cil dros gwestiynau roedd Elliw wedi'u paratoi ar gyfer y Cwis Bwyd. Roedd y cwis yn un addysgiadol dros ben - pwy wyddai mai'r afon farch (hipopotomws) oedd cynhwysyn y cawl cyntaf, fod angen deuddeg gwenynen i gynhyrchu llwy de o fêl, a bod gwartheg yn bwyta am wyth awr y dydd? 'Blodyn' oedd y tîm buddugol, a'r aelodau yn ennill cryno ddisg Cymraeg yr un. Aeth y noson yn ei blaen i gyfeiliant Billy a'i gitâr, ac ymunodd pawb i ganu amryw ganeuon traddodiadol Cymraeg ac Archentaidd - 'Milgi Milgi', 'Moliannwn', 'Y Mochyn Du', a 'Las Golondrinas' i enwi ond ychydig. Roedd yr awyrgylch a'r mwynhad yn wefreiddiol, a'r gân i gloi'r noson oedd 'Hen Wlad Fy Nhadau, wrth gwrs. Diolch i bawb am eu cefnogaeth a'u cyfraniadau. Mae ambell un wedi dechrau holi am Noson Gyri nesaf yn barod!


Oedfa Gymraeg
Ar bedwerydd Sul y mis mae Capel y Tabernacl Trelew a Chapel Bethel y Gaiman yn cynnal oedfaon Cymraeg - y naill yn y bore a'r llall yn y prynhawn. Mae Dyffryn Camwy wedi cael ei bendithio gan waith diflino sawl pregethwr o Gymru dros y blynyddoedd, ond does neb wedi bod yma ers Awst 2010. Felly cefais i wahoddiad i gynnal yr oedfaon cyfrwng Cymraeg y llynedd, a phrofais i wir fendith dro ar ôl tro wrth rannu gair Duw gydag aelodau'r ddau gapel. Does dim pregethwr wedi dod eleni chwaith, a derbyniais y gwahoddiad yn llawen unwaith eto. Ond mae pedwerydd Sul mis Mai yn ystod penwythnos hir a bydda i ar fy ngwyliau yn yr Andes, felly cynhaliwyd oedfa Gymraeg Capel Bethel am 5 o'r gloch ar brynhawn y trydydd Sul. Er gwaetha'r oerfel y tu allan roedd rhyw ddeunaw ohonom ni yn y Capel, sy'n anarferol o uchel a bod yn deg. Hebreaid 12:1-13 oedd testun y gwasanaeth, gan ganolbwyntio ar adnodau 1-2 wrth roi pwyslais ar gadw ein golwg ar Iesu ac ar annog ein gilydd wrth i ni redeg y ras. Yn ôl ein harfer, aeth chwech ohonom ni wragedd am baned a sgwrs i Siop Bara ar ôl yr oedfa yn dechrau wythnos arall.

Felly i'r sawl sy'n meddwl mai'r 'mañana mañana' sy'n llwyodraethu yn y Wladfa, dwi'n gobeithio fod y cofnod hwn yn profi i'r gwrthwyneb!

No hay comentarios:

Publicar un comentario