viernes, 13 de abril de 2012

Y Briodas, Buenos Aires, Bws, a Bienvenida!

'Hasta luego' oedd geiriau olaf y blogiad diwethaf, nôl ym mis Rhagfyr. Dri mis a hanner yn ddiweddarach, ac mae´r 'luego' hwnnw wedi cyrraedd - a dwi wedi cyrraedd Patagonia unwaith eto!

Mewn gwirionedd, fe ddylen i fod wedi dychwelyd ddiwedd Chwefror gan mai dyna pryd mae blwyddyn academaidd yr Ariannin yn dechrau. Ond yr hyn sy'n cael y bai am hyn, neu'r diolch gan rai efallai, yw priodas fy chwaer! Cawson ni ddiwrnod arbennig gyda gwasanaeth hyfryd a bendithiol yng Nghapel Soar y Mynydd, a gwledd a hanner yn Neuadd Goffa Tregaron. Ro´n i´n forwyn briodas. Llongyfarchiadau Esyllt a Ben! (Llun: http://wholepicture.wordpress.com/)

Ddeuddydd yn unig ar ôl y briodas cychwynnais ar fy nhaith: Bow Street (9.30, 2/4/12) - Treorci - Caerdydd - Llundain - São Paulo - Buenos Aires - Trelew - Gaiman (13.30, 5/4/12).

Dim ond diwrnod dreuliais i ym Muenos Aires eleni, a threuliais y rhan helaeth o'r ymweliad yn cysgu. Pryd gysga i siesta arall 5 awr o hyd rhwng nawr a Rhagfyr, gwedwch?! Ond cwrddais â fy ffrind, Sara yno cyn dal y bws yng ngorsaf Retiro - a oedd hanner awr yn hwyr! Ma'n siŵr mod i wedi crybwyll fy hoffter o fysiau'r Ariannin gwpl o weithiau o´r blaen - cadeiriau esmwyth, bwyd, ffilmiau, bingo - felly eisteddais yn fy sedd yn barod am 20 awr o orffwyso ysblennydd...
Ond nid felly y bu. Ryw awr yn unig ar ôl gadael y brifddinas, gwelais y fellten fwyaf i fi ei gweld erioed yn yr awyr! Edrychai'n fygythiol o brydferth, fel gwe pry cop euraidd yn cydio yn yr awyr. Ac ychydig funudau'n ddiweddarach trodd yr awyr yn ddu a llifodd y glaw ohoni wrth i un fellten ar ôl y llall fflachio fan hyn a fan draw. Ymddangosai pawb arall yn ddigon hamddenol a hapus eu byd gan barhau i wylio'r ffilm (ofnadwy), a chafodd bwyd ei weini i ni hyd yn oed - ond ro'dd arna i lond twll o ofn. Ro'n i ond yn gobeithio nad oedd unrhyw un o'r teithwyr yn gwisgo esgidiau gyda gwaelodion metel iddyn nhw, ac er y gwyddwn yn iawn fod teiars rwber yn ddiogel, gallwn ni ddim stopio meddwl am y ffaith ein bod ni mewn bocs o fetel yn symud drwy'r storm erchyll! Bu felly am o leiaf dwy awr, a'r diwrnod canlynol darllenais fod o leiaf 14 o bobl wedi marw yn y storm, a nifer fawr o dai ac adeiladau wedi cael eu difrodi. http://www.bbc.co.uk/news/world-latin-america-17633113 Ond gyrhaeddon ni ben ein taith yn ddiogel, er bod hynny ryw ddwy awr yn hwyr.

Wrth yrru trwy Ddyffryn Camwy gyda´i ffyrdd llydan, ei choed talwyrdd, ei bryniau brown a´i hawyr las, roedd hi´n anodd credu fod dros dri mis ers i mi fod yn eu cwmni ddiwethaf. Y prif wahaniaeth hyd yn hyn yw´r ffaith mod i mewn llety newydd eleni, sef Tŷ Camwy.
Efallai nad ´newydd´ yw´r gair priodol gan ei fod ymhlith rhai o dai hynaf y Gaiman. Tŷ teulu oedd e´n wreiddiol, ond ers blynyddoedd bellach mae wedi bod yn gartref i nifer fawr o athrawon Cymraeg a phregethwyr sy´n dod i weithio yn y Dyffryn. Mae mewn lleoliad hyfryd ar ben uchaf Heol Michael D. Jones a´r drws nesaf i Ysgol Camwy. Pwy sydd angen gosod larwm pan fydd rhyw ddau gant o blant ysgol yn cerdded heibio i ffenest eich ystafell wely toc cyn 8 bob bore? Dwi´n rhannu gydag Elliw, sef athrawes Gymraeg 2012, ac yn hapus iawn yma!

Roedd hi´n wyliau Pasg pan gyrhaeddais i (amseru da!), felly cefais ddeuddydd i ymgartrefu, cwrdd â chyfeillion, a bwyta teisen ddu, empanadas a chig eidion! Ma´i mor braf gweld pawb eto, ac mae´r ´croeso nôl´ dwi wedi ei gael wedi bod yn dwymgalon. Mynychais Oedfa Basg Sbaeneg yn y Tabernacl fore Sul. Cefais fy nghroesawu o´r sedd fawr, gyda´r gweinidog yn cyhoeddi mod i wedi dychwelyd i aros! Daeth nifer ata i ar ddiwedd y gwasanaeth gan holi a oedd hynny´n wir. Wel, mae´n newyddion i fi!


Mae´r gwaith bellach wedi dechrau, ond cewch chi wybod rhagor am hynny cyn bo hir...

No hay comentarios:

Publicar un comentario