miércoles, 15 de junio de 2011

Feria del Libro*


Y penwythnos diwethaf (9-12 Mehefin), cynhaliwyd 27ain *Ffair Lyfrau talaith Chubut yn y Gaiman. A llai nag wythnos cyn y digwyddiad, cawson ni wybod fod ’na stondin ar ein cyfer ni mewn lleoliad gwych drws nesaf i'r llwyfan - sef Menter Patagonia, Ysgol Feithrin y Gaiman, a Dosbarthiadau Cymraeg. Felly daeth rhai ohonon ni at ein gilydd i drafod syniadau, a threulio bron i bob eiliad rydd yn hel syniadau, paratoi deunydd, a chasglu nwyddau ac adnoddau i addurno'r stondin. Noson cyn agor y Ffair Lyfrau, aethon ni ati i'w gosod – lluniau o wahanol weithgareddau’r tri grŵp, arwyddion lliwgar ac atyniadol, balŵns, arddangosfa o lyfrau Cymraeg a gwaith yr Ysgol Feithrin, nwyddau i'w gwerthu, a bwrdd i blant liwio a chwarae gyda chlai arno.

Toc wedi saith o’r gloch nos Iau, cynhaliwyd yr 'acto' (seremoni agoriadol), lle’r oedd cynrychiolwyr o’r ysgolion lleol yn cario baneri, ambell un yn annerch y dorf, a phawb yn canu anthem yr Ariannin. Roedd cryn dipyn o bobl yno, a stondinau gan wahanol sefydliadau a gwerthwyr. Ond llun pa stondin benderfynodd papur ‘La Jornada’ ei gynnwys yn rhifyn y diwrnod canlynol…

Roedd ein stondin ni’n brysur iawn drwy’r penwythnos, gyda phlant o bob oed wrth eu bodd yn cael paentio eu hwynebau a lliwio lluniau - gan fy nghynnwys i ac Iwan, oedd wedi dod o'r Andes am y penwythnos. Ymhlith y lluniau hyn roedd Sali Mali, Jac y Jwc, a Smot. Mae nifer fawr o blant Cymru’n gyfarwydd iawn â’r tri yma, ac felly byddai’r rhan fwyaf yn eu lliwio'n eithaf cywir. Er enghraifft, mae Smot yn felyn, mae Sali Mali’n gwisgo ffrog oren, a Jac y Jwc yn gwisgo siaced goch. Ond prin yw’r plant yma sy erioed wedi eu gweld nhw, oni bai eu bod nhw’n mynychu un o’r ysgolion Cymraeg. Felly roedd hi’n ddiddorol iawn gweld eu dehongliad nhw o’r tri – Smot yn gi brown, Sali Mali’n gwisgo ffrog streipiog, a Jac y Jwc mewn siaced las! Roedd gyda ni rholyn o sticeri Sali Mali hefyd, ac ro’dd hi’n fendigedig gweld plant Patagonia yn cerdded o amgylch y neuadd yn eu gwisgo gyda chryn falchder.







Cynhaliwyd digwyddiad pwysig a hanesyddol am dri o’r gloch brynhawn Sadwrn y 10fed o Fehefin, sef lansio’r Testament Newydd Cymraeg-Sbaeneg. Dechreuodd y prosiect rai blynyddoedd nôl, gyda Mair Davies yn rhan ganolog o’r gwaith, a chafodd ei gwblhau yn 2010 – ychydig dros flwyddyn ar ôl ei marwolaeth. Cefais i gopi o’r Testament gan Gymdeithas y Beibl yng Nghymru fis Chwefror, a sylweddoli ar ôl cyrraedd mai hwn oedd yr unig gopi ym Mhatagonia gan fod rhyw 5,000 o gopïau yn sownd Buenos Aires. ‘Mae o fel aur!’ dywedodd Luned Gonzalez wrtha i. Felly yn ystod fy wythnosau cyntaf yma, cawn fy ngalw i godi mewn cyfarfodydd ac oedfaon i’w ddangos i bawb. Mae wedi bod yn ddefnyddiol tu hwnt gan mai oedfaon Sbaeneg yw’r rhan fwyaf – os nad ydw i'n deall yr holl bregeth, o leia ma’r darlleniad yn rhoi rhyw syniad i fi o’r testun. Ond ro’dd darlleniad yr ail bregeth i fi ei mynychu o Lyfr Eseciel…


Ta waeth, cafodd ei lansio mewn cyfarfod brynhawn Sadwrn a gwerthwyd degau ar ddegau ohono ar stondin yr Amgueddfa a’r Capeli Cymraeg, lle'r oedd hefyd arddangosfa werthfawr o hen Feiblau. A’r bore canlynol, cynhaliwyd cwrdd i ddiolch am y Testament Newydd ac am fywyd a gwaith Mair Davies yn y Wladfa yng Nghapel Bethel, ac roedd y lle bron yn llawn. Roedd gweddïau, emynau Cymraeg a Sbaeneg, darlleniad dwyieithog o Salm 66, ac eitem gan Ysgol Sul Bethel. Bues i wrthi drwy’r wythnos yn dysgu’r geiriau Sbaeneg i’r adnod a’r gân, heb sôn am y symudiadau! Roedd y cwrdd yn un arbennig, a gobeithio bydd defnydd mawr i’r Testament Newydd Cymraeg-Sbaeneg yng nghapeli a chartrefi’r Wladfa am flynyddoedd mawr i ddod.

No hay comentarios:

Publicar un comentario