martes, 10 de mayo de 2011

Poco a poco...*

Heblaw Eisteddfod Trevelin, ma'r gwaith wedi bod yn brysur iawn dros yr wythnosau diwethaf. Felly dyma rywfaint o'r hanes *ychydig ar y tro...

Mae Cylch Chwarae Dolavon wedi tyfu, gyda rhyw 15 o blant rhwng 3 – 9 oed yn dod ar nos Lun erbyn hyn. Ychydig iawn o Gymraeg sy’ ganddyn nhw, os o gwbl, ond maen nhw’n ymestyn eu geirfa yn ystod y sesiynau – mae pawb yn gwybod beth yw ‘gwrando’, ‘cylch’ a ‘cylch mawr’ erbyn hyn! Felly ffurfion ni ‘gylch’ ar gyfer gêm gynta’r wythnos hon – taflu pêl gan ofyn ‘Pwy wyt ti?’ a’i dal gan ddatgan ‘Lois ydw i!’ Wedyn dysgu rhifo o 1 i 10 mewn ‘cylch mawr’ a chanu ‘Un a dau a thri banana, pedwar a phump a chwech banana…’ Dwi wedi bod yn mynd â pharasiwt gyda fi’r troeon diwethaf, a bob tro dwi’n tynnu’r defnydd amryliw o’r sach, mae cyffro’r plant yn byrlymu a’u sŵn yn fyddarol! Dwi’n siŵr fod y ‘Fi! Fi! Fi!’ wedi atseinio trwy Ddyffryn Camwy gyfan, gyda phob un yn ysu am gael ei ddewis i fod yn gath neu’n llygoden! Ar ôl sawl gêm wyllt o ‘Cath a Llygoden’ yr wythnos hon, ffurfiwyd cylch arall er mwyn cynnig bisgïen i’n gilydd, cyn ffarwelio tan yr wythnos nesaf. Ac yn y car at yr arhosfan bws, ganon ni ‘Un bys, dau fys, tri bys yn dawnsio…’ yr holl ffordd ar gais un o’r merched!


Yn y wers cyn y Pasg, gwnaeth ddosbarth ôl-feithrin Ysgol yr Hendre losin, neu ‘bombones’. Felly ar ôl golchi ein dwylo, dysgu a chofnodi’r cynhwysion – menyn, ceirch, powdr siocled, a jam llaeth – pwysodd y plant nhw yn eu tro, cyn eu hychwanegu at y fowlen a’u cymysgu.
Wedyn trochi ein dwylo wrth ffurfio peli bach gyda’r gymysgedd, cyn eu rholio mewn cneuen goco. Gallwch chi ond dychmygu’r llanast! Roedd gan bob un ei fowlen ei hun i osod y bombones – rhai wedi ffurfio ychydig o beli mawr, tra roedd eraill wedi gwneud rhai bach er mwyn gwneud yn siŵr fod ganddyn nhw fwy na’r gweddill! Ac wrth gwrs, llyfu’r fowlen, y llwy a’r bysedd cyn mynd â’r bombones adref i’w bwyta.


Cawson ni noson gwis arbennig yng nghyfarfod diwethaf Clwb. Ffurfiwyd dau dîm i fynd benben â’i gilydd, sef ‘Chwiorydd’ a ‘Bechingalw’, ac roedd y cystadlu’n frwd! Roedd chwe rownd – Cyffredinol, Gaiman, Cymru, Pwy ydw i?, Ble yn y byd?, a Meddwl Mavis. Er bod pawb yn gwybod yn iawn pwy yw Gruff Rhys erbyn hyn, a sut mae’n edrych, siom enbyd i fi’n bersonol oedd nad oedd unrhyw un yn adnabod Ryan Giggs na Bow Street o’r lluniau! Roedd y pwyntiau’n dynn iawn drwyddi draw, ond Chwiorydd gipiodd y wobr wych – potyn o jam llaeth!


Dwi wedi ymuno â’r gampfa! Fues i’n rhedeg ar lan Afon Camwy yn y boreau, ond ddaeth hyn i stop ar ôl i ddau gi redeg amdana i dan gyfarth... Felly am $100 (tua £13), dwi’n gallu mynychu Gimnasio Olimpo deirgwaith yr wythnos am fis. Mae’r gampfa yn ystafell weddol o faint uwchben bar, ac offer codi pwysau sy ’na bennaf – mae ’na hefyd dri pheiriant rhedeg, pedwar beic, a stepiwr. Ar ddechrau’r sesiwn cyntaf, es i ar un o’r peiriannau rhedeg - ond wedodd dyn sy’n gweithio ’na wrtha i ei fod wedi torri, a ’nhywys i at un o’r beiciau. Ar ôl rhyw ugain munud, ddychwelodd e gan ofyn os o’n i’n barod. Do’dd gyda fi ddim syniad at beth o’dd e’n cyfeirio, ond ddywedais i, ‘sí’, a dywedodd wrtha i am fynd ar beiriant rhedeg. Wel nes i ufuddhau, wrth gwrs! Ac wrth i’r awr fynd yn ei blaen, sylweddolais ei fod yn arwain pawb oedd yn y gampfa o un peiriant i’r llall, er mwyn rhoi rhyw fath o rwtîn i ni. Dyna’r arfer mewn campfaoedd fan hyn. Pan soniais i wrth rywun ein bod ni’n cael rhwydd hynt i ddefnyddio pa bynnag beiriant ry’n ni eisiau yng Nghymru, a hynny am faint bynnag o amser sy’n ni eisiau, ga’th e sioc! Ond dwi’n eithaf hoff o’r drefn yma erbyn hyn, a gweud y gwir - a ma'n golygu nad o's yn rhaid ciwio i ddefnyddio peiriannau, sy wastad yn fonws.


Am 10.30 bob bore Sadwrn, ma ’na griw bach ohonon ni’n dod at ein gilydd yn Neuadd Dewi Sant, Trelew i sgwrsio am yr hyn a’r llall. Ymarfer ac ymestyn yr eirfa Gymraeg yw nod y bore, a hynny trwy drafod gwahanol bynciau. Hyd yn hyn ry’n ni wedi trafod y goeden deuluol a’n dyddiau ysgol, a hynny wrth yfed maté - wrth gwrs!



Dwi hefyd yn cwrdd â phobl ifanc Trelew i sgwrsio bob hyn a hyn, ac wedi ca’l fy ngweld yn bwyta hufen-iâ yn ddiweddar…



Bydd un poco mas yn dod yn fuan...

No hay comentarios:

Publicar un comentario