martes, 24 de mayo de 2011

Poco a poco - número dos

Yn wahanol i Gymru, dydd Iau hyd ddydd Sul yw gwyliau’r Pasg, a dyw’r ysgolion ddim yn cau yn hirach na hynny chwaith. Felly ar y nos Fercher, benderfynais i, Nia a Mavis fynd ar ein gwyliau i Borth Madryn! Y peth cynta wnaethon ni o’dd mynd i Stryd Nefyn, cyn ymweld â’r ogofâu. Ym Mhorth Madryn angorodd y Mimosa yn 1865, felly dyma lle dechreuodd Patagonia, i bob pwrpas. Ar lan y môr mae’r hyn sy’n cael ei ystyried yn olion cyntaf y Cymry, sef tyllau mawr yn y graig – neu ogofâu. Mae rhai’n honni iddyn nhw fyw yn yr ogofâu hyn am ryw bythefnos, tra bod eraill yn anghytuno’n chwyrn. Yn bersonol, dwi’n mynd i gadw allan o’r ddadl! Ond ro’dd sefyll yno’n edrych allan i’r môr yn brofiad eithaf dirdynnol, gan fod hel meddyliau am fintai’r Mimosa a’u hargraffiadau cyntaf o’r wlad yn anochel. A dyna’r unig beth twristiaidd wnaethon ni, mewn gwirionedd. Cawson ni benwythnos bendigedig o wneud fawr ddim, heblaw cerdded, bwyta llawer (gormod) o gracyrs, a chysgu. Cefais fy siesta cynta, ac ro’dd yn gymaint o lwyddiant ges i un arall rhyw ddwy awr yn ddiweddarach!


Ar ôl chwarae gêm o ‘Scrabble Cymraeg’,wythnos diwethaf es i ac ôl-feithrin Gaiman ati i wneud un o fy hoff bethau - coginio cacennau! Dysgu’r cynwhysion a’r offer, cyn bwrw ati yn ein tro i bwyso, ychwanegu a chymysgu. Gethon ni lawer o sbort! Daeth un o’r bechgyn â phecyn o ‘Rocklets’, sydd fel ‘M&Ms’, i'w rhoi ar y cacennau! Felly rhoddon ni’r gymysgedd, gyda’r ‘Rocklets’, yn y casys ac – ar ôl i ni lyfu ein llwyau - i'r ffwrn â nhw i bobi’n braf tra’n bod ni’n chwarae gêmau ar iard yr ysgol. Ac wrth gwrs, roedd yn rhaid eu blasu! Felly gosod y bwrdd a bwyta’n barchus. Wel ro’n nhw’n flasus dros ben, chwarae teg – ac yn llawer mwy llwyddiannus na’n hymgais ni i wneud ‘bara’ yr wythnos flaenorol...

Ychydig wythnosau’n ôl, fues i mewn bingo o’dd plant hynaf Ysgol Camwy wedi’i drefnu yn y gimnasio. ‘Bingo maté’ o’dd e, a phobl wedi dod â’u cwpanau, eu yerba, a’u fflasgiau o ddŵr twym yn barod at y prynhawn. Ro’dd y bingo yn sbort, ond bois bach o’n i’n nerfus - achos do’n i ddim eisiau ennill unrhyw beth. Pan fyddai rhywun yn gweiddi ‘linea’ neu ‘bingo’, byddai cerddoriaeth salsa yn dechrau, a'r gwaeddwr yn dawnsio i’r blaen i gasglu ei wobr. Er cymaint dwi’n mwynhau dawnsio, dwi’n siŵr y byddai’r ‘galensa’ benfelen yn rhoi ymgais ar salsa mewn ystafell llawn Archentwyr yn creu tipyn o stŵr! Dwi’n falch i ddweud na enillais i unrhyw beth, er y bydden i yn mwynhau’r badell ffrio crempog…
Ddychwelais i'r gimnasio’r noson honno, gyda gwahoddiad ar gyfer asado. Enw ar ddull arbennig o goginio cig yw ‘asado’, ac ar yr achlysur lle mae’n cael ei fwyta – mae’n debyg iawn i farbeciw. Ro’dd ysgol y plant ag anghenion arbennig yn Gaiman yn dathlu 25 mlynedd, felly cynhaliwyd noson o ddawnsio a bwyta. Ar ôl rhywfaint o gymdeithasu a phlant yn dawnsio ar y llwyfan, cyhoeddwyd fod y bwyd yn barod – cerddodd rhesi o bobl yn cario platiau o fwyd yng nghanol cerddoriaeth, sparklers a chymeradwyaeth! Ro’dd e’n fy atgoffa i o ‘Be Our Guest’ yn Beauty and the Beast. Gyda’r platiau’n wag ar ôl y cwrs cyntaf, llanwyd y byrddau gyda gwahanol saladau, cyn i'r asado ymddangos. Mae’r cig yn ca’l ei weini’n ddarnau mawr ar ryw fath o gril, a dwi wrth fy modd gyda sain y cig yn ffrwtian arno. Wedyn byddai’r gweinydd yn dychwelyd gyda phlât ar ôl plât o’r cig i'w gynnig - byddai’n anghwrtais gwrthod, felly derbyn a derbyn yn llawen wnes i! Ond erbyn y pedwerydd tro, roedd pawb arall ar y bwrdd yn llawn, ac er mwyn peidio ag ymddangos yn folgi, gwrthodais innau gymryd rhagor o gig… Ond, cawson ni choc-ice a darn o gacen pen blwydd wrth gynnig llwnc destun i'r ysgol. Pen blwydd llawen iddi!


Mae ’na thêma bwyd yn raddol ddatblygu, achos coginio (a bwyta) ry’n ni wedi bod yn gwneud yn y ddau gyfarfod diwethaf o Clwb.

Pizzas nethon ni’r tro cynta – caws, ham ac ŵy wedi’i ferwi - a ñoquis y tro diwethaf. Ma ’na flawd ar gyfer gwneud ñoquis ar werth ’ma, sef blawd a thatws wedi’u cymysgu’n barod – tebyg i ‘Smash’, sbo. A’n anffodus, dyna ddewiswyd i'w ddefnyddio (nes i rai go iawn i swper y noson flaenorol) – a theclyn pwrpasol i'w torri nhw! Gwych!

A’r blasu, wrth gwrs. Er o’n i'n mynd am fwyd ar ôl y Clwb, fwyteais i llond fy mol ohonyn nhw! Wedyn draw â fi i Gwalia Lân am swper i groesawu Zara, sy yma am fis yn gwirfoddoli yn yr ysgolion. A ’na le ges i stecen fendigedig - yr ail mewn wythnos!
A dros y penwythnos gethon ni asado yn y tŷ...


















!
Mae cyfryngau Cymru wedi dangos diddordeb mawr ym Mhatagonia yn ddiweddar. Ar ôl nodi ar Twitter a Facebook mod i'n gallu gwrando ar Radio Cymru, yn sydyn – ‘Lois, ma Radio Cymru ar y ffôn!’ ‘Ma pwy ar y ffôn?!’ Felly dyma fi’n siarad gyda Geraint Lloyd yn fyw ar ei raglen, o’dd yn brofiad digon rhyfedd. Ac ar yr 17eg o Fai, ro’dd hi’n Ddiwrnod Rhyngwladol Twm Siôn Cati. Ges i gais i wneud cysylltiad Skype rhwng Ysgol yr Hendre yn Nhrelew ac Ysgol Gynradd Tregaron – ac felly y bu. Ar ôl darllen stori Twm Siôn Cati i blant blynyddoedd 4 a 5, canodd y cyfrifiadur a chawson ni ryw chwarter o awr o siarad a chanu. Cafodd y cysylltiad yma ei grybwyll ar Wedi 7 y noson honno

Bob dydd Mercher dwi’n darllen stori i dri dosbarth Ysgol Feithrin Gaiman, ac ry’n ni wedi bod yn cael hwyl wrth ddarllen am anturiaethau Smot – dwi wedi, beth bynnag! Maen nhw (a fi) wrth ein bodd yn agor y cuddfannau i ddatgelu gwahanol anifeiliaid. ‘Ydy Smot dan y gwely?’ ‘Nac ydy. Crocodeil sy dan y gwely!’ Felly gwnaeth y dosbarth hynaf fasgiau o wyneb anifail o’u dewis nhw. Deinosoriaid ddewisodd pob bachgen, a chathod gan y merched. A bois bach, ro’n ni’n nofio mewn paent! Mae’r plant hyn nawr yn dysgu am anifeiliaid y jyngl, felly ry’n ni’n darllen ‘Y Llyfr Jyngl’ – a’r wythnos ’ma, wnaethon ni nadredd peryglus!
















Daeth wyth deg a thri o Gymry i Batagonia ddiwedd Ebrill, ar daith i godi arian at Eisteddfod yr Urdd Eryri. Traddodais y neges yn Oedfa Basg Capel Tabernacl Trelew, gyda’r adeilad yn orlawn a’r canu’n wefreiddiol – a chanon ni fersiwn y Wladfa o ‘Finlandia’, sef ‘Dros Batagonia, Dad dyrchafwn gri…’ Y diwrnod canlynol, ro’dd y criw yn ciniawa yn mwyty Gwalia Lân yn Gaiman, ac ar foment wan gynigies i help llaw! Ond ges i amser da yn gweini – tarten fach sbigoglys a phwmpen i ddechrau, asado a salad yn brif gwrs, a hufen-iâ gyda ffrwythau coch yn bwdin. Bois, doedd dim stop ar y cig ddeuai o’r gegin! Roedd yr Archentwyr oedd yn bresenol yn credu mai gweld Cymraes yn gweini asado oedd un o’r pethau doniolaf iddyn nhw ei weld erioed, ac felly’n gorfod tynnu lluniau!


Dwi ddim yn gwybod sut lwyddodd y criw i aros ar ddihun ar eu taith fws i Dir Halen a Cheg y Ffos ar ôl y fath wledd. Ac i ffarwelio â nhw’r noson honno, cynhaliwyd Noson Lawen yn nhŷ te Tŷ Gwyn – dawnsio gwerin, unawdau, a’r côr. Ganon ni ddwy gân Sbaeneg a ‘Hafan Gobaith’ wrth i'r Cymry (rhyfedd mod i’n eu galw nhw yn ‘y Cymry’!) fwynhau te Cymreig a hanner. Ges i ganmoliaeth gan sawl un ar y diwedd am fy ngallu i ganu’n Sbaeneg – felly ro’dd fy meimio wedi eu twyllo! Wrth i bawb adael a ffarwelio, ges i'r sgwrs ganlynol gydag un fenyw:

Hi: ‘Diolch yn fawr i chi am y croeso.’
Fi: ‘Dim problem! Ma’i wedi bod yn braf cael eich croesawu chi ’ma.’
Hi: ‘Bydd rhaid i chi ddod i Gymru nesa.’ - !
Fi: ‘… bydd!’

Bendant un o fy uchafbwyntiau hyd yn hyn!

No hay comentarios:

Publicar un comentario