miércoles, 20 de abril de 2011

´Cyri, cyri, cyri...´*

Roedd cyffro wedi bod yn crwydro strydoedd Gaiman a Threlew ers rhai wythnosau, a phawb – wel, efallai fod ‘pawb’ yn gor-ddweud – ond roedd nifer wedi bod yn aros yn eiddgar am yr 16eg o Ebrill. Achos ar galendr Dyffryn Camwy, dyma ddyddiad y Noson Gyri!



Hyd y gwn i, dyma’r drydedd Noson Gyri i gael ei chynnal yn y cyffiniau. Ac yn ôl y sïon dwi wedi eu clywed, cynhaliwyd y gyntaf ym Mhatagonia yn dilyn cais am noson o fwyd traddodiadol Gymreig gwahanol! Dyw cyri ddim yn gyffredin yn yr Ariannin a dweud y lleia, sy’n golygu mai prin iawn yw’r bobl sy wedi clywed amdano hyd yn oed. Felly roedd rhai wedi bod yn aros am y noson hon yn hirach na’r gweddill, roedd rhai dal yn ansicr ynglŷn â’r hyn oedd ‘cyri’, ac eraill wedi eu drysu rhywfaint gan y treiglad meddal. Gobeithio nad oedd unrhyw un yn siomedig pan sylweddolon nhw na fydden ni’n mynd am dro yn y car!



A thalodd y canfasio - papuro llefydd gyda phosteri, anfon e-byst a negeseuon testun, hysbysebu ar y radio ac yn y papur lleol - ar ei ganfed. Roedd ‘Plas-y-Coed’ yn llawn hyd yr ymylon, gyda rhyw 60 o blant ac oedolion wedi dod i flasu’r bwyd. A ’na chi arlwy oedd wedi cael ei baratoi ar eu cyfer nhw – cyri cig eidion, cyri cyw iâr, cyri llysieuol, cyri tatws, salad, bara bach Indiaidd, a llond y lle o reis. Yn dilyn y bwrlwm, syrthiodd tawelwch bodlon dros Blas-y-Coed wrth i bawb gladdu eu ffyrc yn y cyri ac yna yn eu cegau. A bois bach, o’n nhw’n ffein. Ro´dd cymaint o fynd ar y bwyd, nes o’dd yn rhaid i fi adael yn slei bach drwy ddrws y cefn a rhedeg i’r siop agosaf i brynu 1kg ychwanegol o reis!




Ar ôl i ni glirio’n platiau a’r byrddau a dechrau ar y pwdin, rhannodd pob bwrdd yn dîmau o bedwar ar gyfer y cwis bwyd! Diolch i Esyllt Roberts am ddarparu’r cwestiynau - a’r atebion. Roedd y natur gystadleuol wedi cydio’n dynn ym mhawb wrth i fi (Cymraeg) ac Ana (Sbaeneg) ofyn y deg cwestiwn ar hugain, ac ymgynghori dwys yn siffrwd drwy’r ystafell. Bwrdd Judith Jones, Tegai Roberts, Angélica Evans a Graciela Colasante oedd yn fuddugol – llongyfarchiadau! Beth bynnag am y canlyniad, ma pawb nawr yn gwybod mai ‘catwad’ yw’r gair Cymraeg am ‘chutney’, fod coes ôl llo o faint cyffredin yn pwyso tua 40kg, a bod 38 calori mewn 50g o yerba maté. Ac ystyried faint o maté mae’r rhan fwyaf o bobl yn ei yfed, ges i’r argraff nad o´dd unrhyw un yn rhyw hapus iawn o wybod y ffaith fach ’na...

Gwestai gwadd y noson oedd gitâr Billy Hughes. A daeth y noson i’w therfyn yn ystod oriau mân y bore i sain y clasuron – ‘Calon Lân’, ‘Milgi Milgi’, ‘Oes gafr eto?’, ‘Lawr ar lan y môr’, a chaneuon Archentaidd. Gwych!




Ro´dd hi´n noson wych, a diolch o galon i bawb a gyfrannodd at lwyddiant y noson.

Yn llawn cywilydd, ma´n rhaid i fi gyfaddef i fi ga´l rhagor o gyri i ginio´r diwrnod wedyn! Ro´dd priodas wedi bod yn un o eglwysi Gaiman, a reis sych dros y llawr tu fas - dechreuodd fy stumog droi wrth ei weld. Dwi ddim eisiau gweld reis am sbel fach ´to...



*i dôn ´Gyrru, Gyrru, Gyrru´ Gruff Rhys.

viernes, 15 de abril de 2011

Croeso i Gaiman!

Wel, mae’n hen bryd i fi sôn rhywfaint am y lle dwi’n byw - Gaiman.



Dwi ddim am roi hanes Gaiman a sefydlu’r Wladfa, achos ma pobl llawer mwy cymwys na fi eisoes wedi ’neud hynny! Felly dyma gyflwyniad byr...

Pentre yn Nyffryn Camwy yw Gaiman, sydd â phoblogaeth o ryw 6,000. Mae e dipyn mwy o ran maint nag o’n i wedi’i ddisgwyl, mewn gwirionedd – mae’r adeiladau a’r strydoedd ychydig ar wasgar, ac Afon Camwy yn llifo drwyddo. Mae Gaiman 18km o Drelew sydd i’r dwyrain, a 21km o Ddolavon sydd i’r gorllewin, ac felly’n ganolog iawn ar gyfer fy ngwaith. Yn y Dyffryn glaniodd y Cymry gyntaf yn 1865 - ym Mhorth Madryn, sy 85km o Gaiman – cyn symud yn bellach i’r gorllewin.

Dyma bwt yn llyfr Mari Emlyn, ‘Stori’r Wladfa’ ar hanes Gaiman:

‘Dyma enw’r Indiaid ar y man lle’r ymsefydlodd y Cymry yn Nyffryn Camwy. Ystyr y gair yw “lle cul” neu “carreg hogi”. Codwyd tŷ cynta’r Gaiman yn 1874 [gan David D. Roberts]. Erbyn Mai 1876, dywed y Parch. Abraham Matthews, fod “pentref bychan yn dechrau cael ei ffurfio yn y Gaiman”. “Pentref sydyn” oedd enw’r Cymry ar y Gaiman yn ystod y blynyddoedd cynnar, gan adlewyrchu pa mor sydyn y datblygodd.’



Dros 140 o flynyddoedd yn ddiweddarach, ma cymuned Gymraeg weddol gref yn dal i fodoli yn Gaiman. Fis ar ôl i fi gyrraedd, dwi’n dal i gwrdd â mwy o bobl sy’n gallu siarad Cymraeg! Gallen i dreulio diwrnod cyfan yma heb yngan gair o Castellano (yr enw ar Sbaeneg yma) – oni bai am ambell ‘hola’, ‘buenos dias,’ ‘gracias’ ac ‘hasta luego’. Efallai mai’r swydd sy bennaf gyfrifol am hyn, ac y byddai angen i ymwelwyr chwilio am y siaradwyr Cymraeg. Ond ma hynny hefyd yn wir am Gaerdydd, neu hyd yn oed Bow Street - felly ma’n anhygoel ei fod yn bosib mor bell o Gymru!

Ond hyd yn oed i’r ymwelydd, ma olion cryf o’r Gymraeg a’r Cymry alltud i’w gweld yn amlwg yn Gaiman, a hynny ar ffurf arwyddion yn bennaf. Y gair Cymraeg cyntaf welwch chi wrth gyrraedd Gaiman yw ‘Croeso’.

Ac ar hyd y lled y pentre ma ’na strydoedd sydd wedi cael eu henwi ar ôl rhai o’r ymfudwyr – Heol Michael D. Jones, Heol Abraham Matthews, a dwi’n byw ar Stryd Eluned Morgan.

Wedyn ma’r arwyddion sy’n nodi gwahanol sefydliadau - Policia/Heddlu, ac Informes/Gwybodaeth – a sefydliadau hanesyddol – yr amgueddfa, Llyfrgell Richard Jones Berwyn, a’r tŷ cyntaf.




Heb sôn am y rhifedi o enwau siopau, bwytai a thai te – Siop Bara, Gwalia Lân, Teganau, Crefft Werin, Cornel Wini, Gardd, Gwahanol, a Phlas-y-Coed, i enwi ond ychydig. Felly i drigolion Gaiman – os y’n nhw’n gallu siarad/deall Cymraeg ai peidio – ma’r enwau hyn yn rhan o fywyd bob dydd. Dwi’n aml yn clywed hysbyseb mewn siop neu ar y bws sy’n llawn brawddegau Sbaeneg cyflym ac yn sydyn reit – ‘Siop Bara. Pan, tortas, helados... Siop Bara, Avenida Eugenio Tello.’ Dwi’n chwerthin bob tro!



Eugenio Tello yw enw prif stryd Gaiman, gyda rhewl go lydan sy’n aml yn troi’n bedair lein wrth i bobl oddiweddyd ei gilydd. Arni ma llefydd fel Yr Ysgol Gerdd, Siop Bara a’r Ysgol Feithrin, a ma hi’n rhedeg o naill ben y pentre gan arwain at Gaiman Newydd y pen arall. Dyw’r ardal ddim mor newydd â hynny, mewn gwirionedd – ro’n i’n siarad gyda rhywun yn ddiweddar sy’n byw ’na ers 30 mlynedd!




Ac oddi ar y stryd hon ma ’na strydoedd llai, er enghraifft Heol Michael D. Jones (Ysgol Camwy a Thŷ Camwy ar hon), Sarmiento (stryd yr amgueddfa), a JC Evans (y banc, y llyfrgell a’r swyddfa bost). Ma JC Evans yn arwain heibio i’r plaza, dros Afon Camwy ac allan i’r wlad – ond os y’ch chi’n teithio ar droed, ma’n rhaid i chi gerdded dros bont bren sigledig i groesi’r afon (wele Iwan arni).




Deg person yw’r mwyaf sy’n cael bod arni ar yr un pryd. Dwi’n byw yr ochr arall i’r bont, ac felly’n cerdded drosti sawl gwaith y dydd – ro’n i’n dal ar yr ochrau i ddechrau, ond dwi wedi bod arni gyda dros ddeg o bobl eraill erbyn hyn, a hyd yn oed redeg drosti gwpl o weithiau!

Ma llawer mwy y gallen i ei ddweud am Gaiman, mewn gwirionedd, ond ma hyn yn rhoi syniad i chi! Dwi wedi teimlo’n gartrefol iawn yma o’r cychwyn cyntaf, gan fod pawb mor groesawgar a chyfeillgar - a mod i’n gallu siarad Cymraeg yma.

Felly dyna Gaiman i chi – Bow Street Patagonia!

jueves, 7 de abril de 2011

Un poco mas...

Wel, yma *ychydig bach mwy o weithgarwch:

Dwi wedi bod yn ymweld â dosbarthiadau Cymraeg er mwyn cwrdd â phobl, sôn am fy ngwaith, a cha’l gwell syniad o’r system dysgu Cymraeg sy ’ma. WLPAN wedi’i addasu ar gyfer y Wladfa yw’r cwrs, a’r dosbarthiadau mwyaf diddorol o’dd y dechreuwyr pur, gan fod y Gymraeg mor newydd a gwahanol iddyn nhw. Fues i’n ddisgybl mewn un wers, yn gofyn ac yn ateb cwestiynau gyda’r lleill (‘Pwy wyt ti?’ ‘Lois ydw i.’), yn canu ‘Lois ydw i, Lois ydw i, Lois, Lois, Lois, Lois, Lois ydw i’, ac yn rhifo i ddeg! ‘Problem?’ ‘Dim problem o gwbl!’ Dwi ddim yn siŵr o resymau pawb dros fynychu’r gwersi, ond ro’n nhw’n frwd iawn ac yn cael mwynhad o ddysgu. Bydda i’n dechrau cynnal cwrs Cymraeg i Rieni’r prynhawn ’ma, a bydd rhai ohonyn nhw heb air o Gymraeg – her a hanner. Bydd y gân ‘Lois ydw i’ yn rhan o’r wers!


Aeth un o athrawesau Cymraeg Ysgol Camwy i wylio U2 yn Buenos Aires, felly gofynnodd Luned Gonzalez i fi ei chynorthwyo i ddysgu’r chweched. Ges i nhywys o amgylch yr ysgol cyn y wers ddydd Mawrth, a gweld cwpl o lyfrau Dad yn y llyfrgell! Ro’dd Luned (a fi) wrth ei bodd. Dreuliodd hi chwarter awr gynta’r wers yn fy nghyflwyno i, Dad a’i lyfrau - er nag o’dd hi wedi eu darllen nhw! Wedyn ddysgon ni sut i ofyn a rhoi cyfarwyddiadau gyda’r gerdd – ‘Trowch i’r chwith a trowch i’r dde, Syth ymlaen i ganol y dre.’ A ddydd Gwener ddangoson ni ‘Separado’ – cymeradwyo, chiwbannu a gweiddi pan dda’th Gaiman ar y sgrin!

Dwi wedi ymweld â Chymdeithas Dewi Sant yn Nhrelew. Ma ’na neuadd fawr i gynnal gweithgareddau, a’r dderbynfa’n rhyw fath o amgueddfa fach gyda lluniau, mapiau, celfi a llyfr gwesteion. Dwi’n hoffi edrych trwy’r llyfrau gwesteion ’ma rhag ofn i fi weld enw rhywun dwi’n ei nabod... JACPOT! Fy nghyn-ddarlithwyr Bill Jones, Colin Williams, ac E. Wyn James (Wncwl Wyn)! A chyn i fi adael, ges i ganiatâd i roi poster ‘Sgwrs Dros Baned’ yn y ffenest – ma hwn yn dechrau wthnos ’ma, felly gobeithio bod y poster wedi neud ei job yn iawn…



Dychwelais i’r neuadd drannoeth i ymarfer dawnsio gwerin. Do’dd e ddim yn dechre tan 21.00, ac ar ôl trafod manylion Eisteddfod Trevelin a gwylio dvd o ddawns y Ceiliog, dim ond rhyw 10 munud o ddawnsio nes i cyn dal bws 22.00 nôl i Gaiman – a’th yr ymarfer mla’n tan 23.00! Fydda i methu mynd rhagor, gan y bydda i’n beirniadu un o’r cystadleuaethau dawnsio gwerin yn y steddfod! Cawl a Chân Ysgol Rhydypennau yw’r unig brofiad sy ’da fi o ddawnsio gwerin, a dim ond yr ‘hokey cokey’ a’r ‘promenâd’ wi’n cofio!

Gwnaeth un o’r dosbarthiadau ôl-feithrin gardiau Sul y Mamau. Dyw’r diwrnod mawr ddim yn digwydd yn yr Ariannin am rai misoedd eto, felly ro’dd y plant wedi drysu braidd! Ond chwarae teg, nethon nhw ymdrech arbennig ar gyfer Mam - heb gwyno eu bod nhw’n colli amser chwarae ar yr iard.


Dwi wedi dechrau Clwb Chwarae yn Nolavon, sy’n bentref ryw 25 munud o Gaiman. Daeth 10 plentyn o’dd yn amrywio o ran eu hoedran a’u gafael ar y Gymraeg, felly ro’dd trio chwarae gêmau addas i bawb yn anodd. Ond ddethon ni drwyddi, diolch i Nivia! Ro’dd ‘Mae’r ffermwr eisiau gwraig...’ yn llwyddiant ysgubol – ond ro’dd y bachgen wirfoddolodd mor frwd i fod yn ffermwr yn difaru unwaith iddo fe sylweddoli y byddai’n rhaid iddo fe ddewis gwraig!


Yn ail gyfarfod ‘Clwb’ Gaiman ddaeth pawb â thri pheth sy’n bwysig iddyn nhw, er mwyn i ni ddod i adnabod ein gilydd yn well. Ro’n nhw’n amrywio o sbatiwla, ffon hoci, cactws, jam llaeth, clustog, ffôn, cerddoriaeth a bagiau te. Fi aeth â’r bagiau te – yr holl ffordd o Gymru! Ac yn arbennig at y noson, goginiais i ‘brownies’ jam llaeth. Oh my!


Brynhawn Sul (ma 18.00 yn ca’l ei ystyried yn brynhawn), ro’dd Cwrdd Diolchgarwch Capel Bethel Gaiman. Fues i’n trefnu’r cwrdd ac yn traddodi’r neges. Profiad rhyfedd o’dd cynnal Cwrdd Diolchgarwch gyda’r haul yn tywynnu’n gynnes tu fas, a llysiau fel aubergines ac avocados ymysg y rhoddion! Ro’dd hi’n fendigedig canu emynau Cymraeg, a gwrando ar rai yn darllen o’r Beibl ac eraill yn canu unawdau a deuawdau.

A phan gyrhaeddais i adre’n hwyrach, ro’dd ’na focs o’r rhoddion yn aros amdana i – amlwg mod i’n ymddangos yn anghenus!

lunes, 4 de abril de 2011

Y Ffair Amaethyddol

Ma un o benwythnosau pwysicaf calendr Gaiman newydd fod - y Ffair Amaethyddol. Yr unig ffordd o’i disgrifio yw rhywle rhwng Sioe Rhydypennau a’r Sioe Frenhinol! Ro’dd rhai stondinau mewn sgubor ac ambell un yn y maes parcio, ond y gimnasio (canolfan hamdden) o’dd y canolbwynt – arddangosfeydd o lysiau a ffrwythau, ac amryw stondinau bwyd, cynnyrch cartref a chrefftau.



Gyrhaeddais i a Mavis (yr athrawes o Gymru) yn eithaf ling-di-long, yr un pryd â’r camerâu teledu a’r ffotograffwyr. Do’n nhw ddim ’na ar ein cyfer ni, ond yn dilyn criw o ddynion mewn siwts – dim syniad pwy o’n nhw, heblaw Gabro y maer. Buon ni’n crwydro rhwng y dynion ’ma gan feindio’n busnes, a fwres i un gyda ’mag mewn camgymeriad! Ro’dd y wasg yn dangos diddordeb mawr mewn un dyn yn benodol, a phan welon ni’r siwtiau’n sefyll ar lwyfan y gimnasio sylweddolon ni mai Das Neves o’dd e – ‘gobernador’ Chubut!


Ro’dd y neuadd yn llawn, a rhes o bobl ifanc yn cario baneri’r Ariannin – a chynrychiolwyr o’r Ysgol Feithrin yn cario’r ddraig goch! Canwyd anthem yr Ariannin (http://www.youtube.com/watch?v=zadBBHR7PGo&feature=related) gydag angerdd, cyn i rai o’r dynion mewn siwts annerch y dorf yn eu tro.

Cafodd Tegai Roberts ei hanrhydeddu gyda bwnshyn mawr o flodau am ei chyfraniad i’r gymuned dros y blynyddoedd, a chan fod 2 Ebrill yn nodi Diwrnod y Malvinas, cafodd dynion fu’n ymladd yn y rhyfel eu hanrhydeddu hefyd. A daeth y seremoni agoriadol i ben gyda chanu rhyw fath o anthem i’r Malvinas, wrth i’r bobl ifanc orymdeithio o’r gimnasio gyda’u baneri. Wedyn crwydro, sgwrsio a blasu rhywfaint o’r cynnyrch – caws dafad, a theisen ddu! Yr unig anifeiliaid welais i o’dd cwpl o ieir a chwningod mewn cewyll wrth y fynedfa, a phedair corlan fach ben pella’r maes parcio i gadw dwy afr, pedair dafad, a llo! Siom.


Brynhawn Sadwrn cynhaliodd y côr de Cymreig i godi arian, ac estynnais i a fy mrownies help llaw! Ro’dd hi fel ffatri taenu menyn ar fara a thorri cacennau. A bois bach, sôn am gacennau! Teisennau hufen, tartenni afal, cacen eirin gwlannog, cacen gnau, cacennau jam llaeth, teisen foron, cacennau siocled, pice’r maen, sbwngs, sgons, teisennau du... a brownies! Ro’n i’n dechrau difaru cynnig helpu, ond ges i ddau fwrdd i weini arnyn nhw – dosbarthu’r bara menyn a’r cacennau, a sicrhau fod y te yn llifo.







A phrynhawn Sul gynorthwyais i stondin yr Ysgol Feithrin. Un pot jam ga’th ei werthu yn ystod yr awr a hanner o’n i ’na – ro’dd hi’n adeg ciesta! Gofynnodd hen gwpl am ‘pan gales’ (bara Cymreig), ond gwrthodon nhw’r dorth wen o’dd ’da ni gan fynnu fod bara Cymreig yn cynnwys rhyw ffrwyth sy’n tyfu yn Chile, a chwyno nag o’dd unrhyw un yn ei werthu. Dwi’n credu eu bod nhw’n amau’r ffaith mod i’n Gymraes gan nag o’n i wedi clywed am y ‘pan gales’ ’ma!

Ro’dd ’na sioe tango yn y nos i gloi’r ffair, ond fethais i â mynd iddi, yn anffodus. Rhywbeth sy ar goll o Sioe Rhydypennau a Sioe Llanelwedd, weden i!

viernes, 1 de abril de 2011

CLARO fel mwd.

Gynta i gyd, diolch o galon i bawb sy wedi ’n anfon negeseuon ata i - dwi’n eu gwerthfawrogi nhw’n fawr. Ond ma’n rhaid i fi ymddiheuro mod i naill ai wedi cymryd amser maith i ateb, neu heb lwyddo i ateb rhai eto. A dyma pam...

Do’s dim band llydan yn Gaiman eto, felly ma’r rhan fwyaf o gyfrifiaduron ar ‘dial-up’ – cofio’r dyddiau da ’na o feithrin amynedd?! Fel arall, gallwch chi fynd i ‘locutorio’ (internet cafe), neu brynu ‘dongle’ pwrpasol.

Felly a’th fy ffrind, Ana, â fi i siop Claro (cwmni ffôn) yn Nhrelew i brynu ‘dongle’. Gan mai diwrnod ar ôl yr etholiad o’dd hyn, ro’dd y strydoedd yn dal yn eithaf tawel - dyw’r cyfrif dal heb orffen mewn rhai llefydd, gyda llaw! Felly dim ciwio. Dim problem.




Ges i werth 6awr o syrffio’r we gyda’r y teclyn newydd, a chyfarwyddiadau i’w ddefnyddio. Ar ôl ei lwytho i’r cyfrifiadur, ry’ch chi’n anfon neges yn dweud ‘horas’ (oriau), cyn derbyn ateb sy’n gofyn i chi nodi sawl awr – 1h, 2h, 4h neu 6h. Wedyn ma rhwydd hynt i chi ddechrau syrffio! Gweithiodd hyn yn berffaith y tro cynta...

Ond y tro nesa es i ati, ges i neges yn dweud nad o’dd gen i ddigon o arian i fynd ar y we! Celwydd pur, achos o’dd dal oriau am ddim arno fe, a phrynes i garden ffôn i’w ddefnyddio hefyd. Felly ffoniodd Ana Claro, chwarae teg. Dywedon nhw mai eu bai nhw o’dd e a’u bod nhw wrthi’n trwsio’r broblem - a’r cyngor ges i o’dd trio a thrio nes ei fod e’n gweithio. Deuddeg diwrnod yn ddiweddarach, a dwi’n dal i dderbyn yr un neges! Felly dyfal donc ar y ‘diall-up’ neu dripiau achlysurol i’r locutorio yw hi am nawr – llwytho un llun ar y tro yw’r gorau ma’n nhw’n gallu ei wneud. A ’na pam do’s dim lluniau wedi ymddangos ar Facebook hyd yn hyn chwaith!



Ro’n i’n teimlo rhywfaint yn well am y peth ddoe gan nag o’dd unrhyw un yn Gaiman wedi llwyddo i gysylltu â’r we trwy’r teclynnau ’ma – ond o’dd y locutorio yn llawn dop pan es i ’na, a do’dd dim cardiau ffôn Claro ar werth yn unrhyw le! Efallai bydd yn rhaid i fi fuddsoddi mewn colomen...