martes, 22 de marzo de 2011

Todo Gaiman X

Ar ôl cyrraedd Patagonia (dros wythnos nôl erbyn hyn), ro´dd hi´n amlwg fod rhywbeth mawr ar feddwl pawb - a buan y sylweddolais i fod etholiad ar droed...

Diben yr etholiad o´dd penodi ´gobernor´ newydd i´r dalaith (Chubut), ac ro´dd pob maer lleol yn ca´l ei ethol hefyd. Ro´dd yr ymgyrchu i´w weld bob man - posteri ar y waliau, polion lamp, ffenestri; baneri; ´billboards´; enwau ar y waliau, pontydd a´r ffyrdd; a cherbydau´n crwydro´r stryoedd gydag uchelseinydd swnllyd!

Ddydd Sul (20/3/11) daeth diwrnod mawr y pleidleisio! Felly es i mas i fusnesa...

Ma hi´n orfodol i bobl yr Ariannin sy dros eu deunaw bleidleisio. Os na fyddwch chi´n gwneud ´ny, am ba reswm bynnag, wedyn fydd gyda chi 60 diwrnod i lenwi ffurflen yn cyfiawnhau hynny. Felly ro´dd pobl yn ciwio i bleidleisio yn Gaiman, a´r strydoedd yn llawn - hyd yn oed yn ystod y ciesta! Ond erbyn ganol y prynhawn (6.00 fan hyn!), ro´dd y gorsafoedd pleidleisio wedi´u cau a phawb wedi cilio i´w cartrefi i gnoi eu hewinedd tra bo´r pleidleisiau´n ca´l eu cyfri. Erbyn rhyw 7.00 ro´dd ´na naws ddisgwylgar yn cropian drwy´r dre, a phobl yn dechrau ymddangos ar y strydoedd yn aros yn eiddgar am y canlyniad...


Ymhen rhyw awr, ro´dd Gaiman yn ferw gwyllt! Ro´dd sylw pawb wedi´i hoelio ar fan penodol lle´r o´dd torfeydd wedi ymgynnull tu fas, a rhagor yn glystyrau ar gorneli´r strydoedd cyfagos. Ro´dd y traffig wedi dod i stop, a gyrwyr y cerbydau o´dd yn symud naill ai´n hongian mas o´r ffenestri neu´n twtio´u cyrn! A bois, bach o´dd y cwn yn wyllt!! Er bod tân gwyllt wedi dechrau ca´l eu cynnau a phobl yn dechrau dathlu, chafodd y canlyniadau ddim eu cyhoeddi tan yn ddiweddarach. Ro´dd chwe ymgeisydd yn sefyll i fod yn faer Gaiman, a´r ras yn un agos iawn rhwng y ddau geffyl blaen...

Gabriel Restucha (Gabro) enillodd, sef y maer presennol.

Ma Gabro yn siarad Cymraeg!

No hay comentarios:

Publicar un comentario