domingo, 20 de marzo de 2011

Buenos Aires

O’r diwedd, wi wedi llwyddo i greu blog! Felly bant â ni…

Ar 9 Mawrth, rhyw 26 awr ar ôl gadael Cymru, glaniais i ac Iwan yn Buenos Aires! Y peth cynta nes i o’dd cymryd ‘ciesta’ – jyst er mwyn taflu’n hunan i ganol y diwylliant o’r cychwyn cynta. Ond wedodd rhywun wrtha i’n ddiweddarach nag yw pobl Buenos Aires yn cymryd ciestas! O wel.




Dreulion ni rai diwrnodau yn y brif ddinas, yn ymddwyn fel twristiaid go iawn – Sbaeneg fratiog, bwyta ar amserau hollol wahanol i bawb arall, llosgi yn yr haul, a theithio ar y bws heb do o gwmpas y ddinas gyda’n mapiau. Ethon ni i stadiwm bêl-droed y Boca Juniors, a cha'l cip arnyn nhw'n hyfforddi wrth fynd heibio ar y bws!  Fuon ni hefyd yn ymweld â mynwent enwog Recolta, lle ma Eva Peron (Evita) wedi ca’l ei chladdu. Lle rhyfedd iawn. Ro’dd e’n debycach i dre’r meirw na mynwent, gyda’i rhesi o feddau fel tai crand ond llwm, ac ro’dd cerdded ar hyd y ‘strydoedd’ yn brofiad eithaf anesmwyth.





Ond y profiad mwya rhyfedd a chofiadwy o´dd ymweld â´r Llysgenhades, Shan Morgan, sy´n hanu o Aberaeron.  Dda´th car du gyda ´tinted windows´ i´n casglu ni o´r gwesty, a dyn o´r Cyngor Prydeinig yn aros amdanon ni wrth gatiau´r Llysgenhadaeth.  A mewn â ni!  Cafon ni ein tywys ar hyd carped coch y grisiau a’r coridorau posh at ryw fath o feranda marmor o´dd yn edrych dros yr ardd.  A ´na le o´dd bwtler yn aros amdanon ni yn ei siaced wen a´i fow-tei!  Ymunodd Shan Morgan â ni am baned o goffi, gwydred o ddŵr a phlated fach yr un gyda chacen lemwn, cacen siocled, a bisgen arnyn nhw – dim Ferrero Roches! A ’na le fuon ni’n sgwrsio am y Wladfa, gwaith Menter Patagonia ayyb – ma hi’n frwd iawn dros y gwaith. Trwy gydol y sgwrs o ryw 3/4 awr, ro´dd y bwtler yn sefyll yn eiddgar yng nghornel y ´stafell - bron iawn iddo fe redeg draw at y Llysgenhades pan o´dd hi´n trio tynnu´i siaced! O’dd e’n rhy hwyr, ond gosododd e’r siaced ar gefn cadair arall yn gelfydd!





Dwi ar ddeall fod rhyw 13 miliwn yn byw yn Buenos Aires a rhyw 10 miliwn yn ychwanegol ar y cyrion (40 miliwn yw poblogaeth yr Ariannin), ac ro’dd pobl yn synnu pan fydden i’n gweud wrthyn nhw mai ond 3 miliwn yw poblogaeth Cymru gyfan. Ond ges i’n synnu gan gymaint o’r Archentwyr sy wedi clywed am Gymru a’r Gymraeg – a hynny achos Patagonia. Galla i ddim gweud pa mor braf yw dod i wlad lle nag o’s angen esbonio le ma Cymru a nag yw hi’n rhan o Loegr, nac esbonio beth yw ‘Cymraeg’ a pham mod i’n ei siarad hi!

1 comentario: